Cronfa Ddata Eiddo
Chwiliwch drwy Gronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru ar gyfer tir ac eiddo masnachol sydd ar werth ac ar rent ar hyd a lled Cymru. Mae modd chwilio yn ôl maint, math a deiliadaeth yr eiddo.
Caiff y manylion sydd ar y wefan hon eu llunio gyda gwybodaeth sydd wedi’i rhoi gan berchnogion eiddo, asiantau masnachol a'r sector cyhoeddus ledled Cymru. Gallwch chwilio am bob math o dir ac eiddo masnachol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
• adeiladau swyddfa
• eiddo diwydiannol/warysau
• tir masnachol sydd ar gael i’w ddatblygu
• eiddo mewn Ardaloedd Menter
Mae Cronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i rhoi gan gyfranwyr sector preifat/trydydd parti. Mae gwybodaeth farchnata, gan gynnwys llyfrynnau ar Gronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru, ar gael yn yr iaith sy’n cael ei darparu i ni. Felly, bydd y canlyniadau chwilio’n adlewyrchu hyn.
Sut mae cynnwys eich eiddo neu'ch safleoedd
Os hoffech chi gynnwys manylion am eich eiddo neu'ch safle ar Gronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru, cysylltwch â darparwr gwasanaeth Busnes Cymru, Alcium Software ar 0114 349 1294, neu drwy e-bost: walescommercialproperty@alciumsoftware.com
Eiddo Arbennig
Ymwadiad